Senior Service Manager

Screened
Rhyl, Wales
Posted 4 days ago
Apply Now

About the role

Diben y Rôl: Mae'r Uwch Reolwr Gwasanaeth yn gyfrifol am reoli gweithredol a pherfformiad gwasanaethau dynodedig o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddiogel, yn effeithiol, yn canolbwyntio ar y person, ac yn cyd-fynd â gwerthoedd, polisïau a blaenoriaethau strategol y sefydliad.

Gan adrodd i Bennaeth y Gwasanaeth, mae'r rôl yn darparu arweinyddiaeth weladwy i dimau rheng flaen, yn cynnal gafael weithredol, ac yn sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion cytundebol, rheoleiddiol ac ansawdd. Mae'r Rheolwr Gwasanaeth yn chwarae rhan allweddol wrth drosi strategaeth yn ymarfer a chefnogi gwelliant parhaus mewn gwasanaethau.

Os credwch fod gennych y sgiliau hyn, ond nad ydych 100% yn siwr, gwnewch gais o hyd a gadewch i ni benderfynu. Gwyddom fod rhai grwpiau yn diystyru eu hunain o gyfleoedd diddorol gan gymryd y bydd eraill yn fwy llwyddiannus, ond peidiwch â bod y person hwnnw. Rydym am glywed gan y trawstoriad ehangaf o’r gymuned.

Os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i'r wybodaeth hon neu os hoffech chi ei chael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â'n tîm recriwtio yn recruitment@adferiad.org neu 01792 816600.

#J-18808-Ljbffr

About this listing

Screened by Joboru

This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.