Head of Theatre, Performing Arts & Touring

Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales logo
Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales
ScreenedHybridJust posted
Cardiff, Wales
£58,960 - £65,306/annum
Posted 1 day ago
Apply Now

About the role

Pennaeth Theatr, Y Celfyddydau Perfformio a Theithio

Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Graddfa Cyflog - £58,960 - £65,306 y flwyddyn

Lleoliad: Unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Caerdydd, Bae Colwyn neu Gaerfyrddin) gyda gweithio hybrid

Am y rôl

Fel Pennaeth Theatr, Celfyddydau Perfformio a Theithio, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer datblygu theatr, celfyddydau perfformio a theithio ar draws Cymru.

Mae hon yn rôl uwch, broffil uchel lle byddwch yn llunio ac yn cyflawni gweledigaeth strategol y Cyngor—gan gefnogi rhagoriaeth artistig, ehangu hygyrchedd, a chryfhau sector celfyddydau perfformio cynaliadwy a chynhwysol.

Gan weithio’n agos gyda Dirprwy Gyfarwyddwr y Celfyddydau, byddwch yn:

  • Arwain datblygiad strategol theatr, celfyddydau perfformio a theithio yng Nghymru
  • Gosod gweledigaeth glir, hirdymor sy’n cryfhau theatr Gymreig yn lleol tra’n ymestyn ei chyrhaeddiad yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • Cefnogi datblygiad cynaliadwy a gwydn y sector ar draws artistiaid, cwmnïau a sefydliadau
  • Adeiladu a chynnal partneriaethau cryf ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol
  • Goruchwylio rhaglenni buddsoddi a chyllido

Pwy rydyn ni’n chwilio amdano

Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol iawn gyda hanes cryf ym maes theatr, y celfyddydau perfformio neu ddatblygu diwylliannol.

Yn y rôl hon, byddwch yn:

  • Yn dod â phrofiad sylweddol ar lefel uwch o arwain a llunio gweithgarwch neu strategaeth ym maes y celfyddydau perfformio
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o gynhyrchu theatr, teithio, a datblygu cynulleidfaoedd
  • Yn adeiladu perthnasoedd dibynadwy ar draws rhwydwaith eang o bartneriaid a rhanddeiliaid
  • Yn dangos meddylfryd strategol cryf a’r gallu i drosi mewnwelediad sector yn weithredu

Bydd angen dysgu sgiliau Cymraeg yn sgil penodi os nad ydych yn gallu’r Gymraeg eisoes. Byddwn yn sicrhau’r gefnogaeth berthnasol i gynyddu neu ddysgu sgiliau Cymraeg.

Ein hymrwymiad i cynhwysiant

Rydym yn chwilio am safbwyntiau ffres a lleisiau newydd. Mae eich profiad bywyd yn bwysig yma.

Rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac rydym yn ymrwymo i gyfweld â’r holl ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol yn y manyleb rôl.

Gweithio hyblyg

Rydym yn agored i drafod hyblygrwydd o'r eiliad y byddwch yn gwneud cais.

Os hoffech weithio oriau gwahanol i’r rhai a hysbysebir, rhowch wybod am eich dewisiadau yn eich e-bost wrth i chi gyflwyno eich cais.

Dyddiad cau: Dydd Llun 29 Mehefin 2026 am 10:00 y bore

Cyfweliadau: Wythnos 13 – 17 o Orffennaf

#J-18808-Ljbffr

About this listing

Screened by Joboru

This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.