Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch (ADY) – Cyfathrebu a Rhyngweithio

Screened
Llangefni, Wales
Posted 3 days ago
Apply Now

About the role

Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch (ADY) – Cyfathrebu a Rhyngweithio

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

I gefnogi disgyblion 3 i 16 oed gydag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio mewn ysgolion a chanolfannau arbenigol ar Ynys Môn fel rhan o dîm ADY a Chynhwysiant Integredig, rhoi’r cod ADY ar waith wrth gefnogi disgyblion, meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol gyda disgyblion wrth weithredu fel gweithiwr proffesiynol, cyflwyno gwaith addysgu proffesiynol drwy ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros weithgareddau dysgu y cytunwyd arnyn nhw o fewn fframwaith goruchwylio y cytunwyd arno a all gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion a grwpiau a monitro disgyblion ynghyd ag asesu, cofnodi ac adrodd am eu cyflawniadau, cynnydd a datblygiad, a chynnig arweiniad a chefnogaeth i reoli cymorthyddion addysgu eraill gan gynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.

Mwy o wybodaeth

Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi cyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

#J-18808-Ljbffr

About this listing

Screened by Joboru

This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.