Darlithydd mewn Dylunio Ffasiwn (Digidol) (2526609)
About the role
Y cyfle
Os oes gennych record o gyflawniad sy'n dangos yr ymrwymiad, y gallu a'r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir dros ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ar~ ao dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein safle ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau a'n partneriaethau a'n cefnogi.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Mae Dylunio Ffasiyn ym Met Caerdydd yn cael ei nodweddu gan ddiwylliant o arbrofi, gwreiddioldeb a chydweithrediad rhyngddisgyblaethol. Mae'r rhaglen yn annog myfyrwyr i ddatblygu hunaniaeth greadigol unig trwy brosesau dylunio proffesiynol sy'n cydbwyso meddwl cysyniadol, archwilio deunyddiau, arloesi technolegol ac ymwybyddiaeth fasnachol. Bydd deiliad y swydd yn ysbrydoli myfyrwyr i gymryd risgiau creadigol, ymgysylltu'n feirniadol â heriau ffasiwn cyfoes, ac archwilio dimensiynau cymdeithasol, diwylliannol, moesegol ac amgylcheddol ymarfer ffasiwn.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd addysgu ar draws Dylunio Ffasiwn gyda phwyslais ar ddylunio digidol, meddalwedd CAD a modelu 3D. Bydddeiliad y swydd yn cyfrannu at brosiectau rhyngddisgyblaethol cydweithredol mewn ymchwir, arloesi ac addysgu. Fel rhan o gwricwlwm rhyngddisgyblaethol unigryw Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, byddant yn cyfrannu at bynciau eraill fel y bo'n briodol ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â modiwlau traws-ysgol ar bob lefel. Byddant yn dod yn rhan o ddiwylliant addysgu ac ymchwil bywiog, gan ymgorffori eu harbenigedd yn y cwricwlwm, ymgysylltu â chydweithwyr, a datblygu allbynnau ymchwil neu effaith sy'n berthnasol i'w harbenigedd pwnc a'u harbenigedd ymchwil.
Yn frwdfrydig am addysgeg sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltu proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Bydd disgwyl i chi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran ac i fodloni'r gofynion ansoddol a meintiol i'w cyflwyno i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.
Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano
- Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
- Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
- Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgarwch ysgolheigaidd.
- Gwybodaeth am y diwydiant ffasiwn cyfoes.
- Arbenigedd diwydiant mewn datblygu dillad 3D torri patrymau.
- Gwybodaeth am gynaliadwyedd a materion amgylcheddol yn y diwydiant ffasiwn.
- Tystiolaeth o sgiliau Dylunio Digidol mewn meddalwedd CAD a modelu 3D.
- Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
- Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
- Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
- Y gallu i nodi meysydd i'w gwella ac i ddefnyddio sgiliau menter a datrys problemau i wella perfformiad.
- Y gallu i gyfathrebu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amrywiaeth o ffyrdd - cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
- Profiad o addysgu neu gyfwerth.
- Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chefnogaeth/mentora llinell gyntaf i gydweithwyr eraill.
- Gradd anrhydedd dda.
- Cymhwyster lefel doethuriaeth a enillwyd neu brofiad cyfatebol i alluogi cyflwyno ymarferion asesu ymchwil AU y DU.
- Y gallu i gyflawni Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ac yn bendant o fewn tair blynedd i ddechrau cyflogaeth).
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyriwr rhagorol. Mae proffil ymchwir sefydledig neu addawol a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
I fod yn llwyddiannus, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach trwy eich arbenigedd a gwybodaeth pwnc fel y'i tystiolir trwy eich cymwysterau a'ch profiad.
Cysylltu â ni
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Dr Clara Watkins, Pennaeth Adran, yn cwatkins@cardiffmet.ac.uk.
Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.
Bydd manyleb y person yn cael ei defnyddio i lunio'r rhestr fer; felly cofiwch defnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio.
Dyddiad Cau: 12 Aug 2026
Ysgol/Uned: Academaidd
Cyflog: £46,049 to £51,753 y flwyddyn pro rata
Parhaol
About this listing
This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.
Similar jobs you may like
Senior Systems Engineer
2 days agoSystems Engineering and Assessment Limited
Activity Coordinator
2 days agoCygnet
Swimming Assistant
2 days agoAbingdon School
Staff Engineer / Technical Lead Python C++ Start-up
2 days agoClient Server
Principal Safety Case Engineer
2 days agoMorson Edge
User Researcher
2 days agoExperis
Lead Technical Architect
2 days agoFCDO Services
Automation and Metallics Engineer
2 days agoMorson Edge
Military Data Centre Engineering Operations (DCEO), Amazon Web Services (AWS)
2 days agoAmazon