Asesydd: Gwaith Saer
About the role
Mae cyfle cyffrous i ymuno â'n hadran Hyfforddiant Pathways wedi codi lle byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno addysg.
Gall y rôl hon hefyd roi profiad gwerth chweil i chi os ydych chi am ddilyn gyrfa mewn addysgu yn ddiweddarach.
Cyflog: Graddfa 5, Pwyntiau 25-28, £32,241 - £34,720 y flwyddyn.
Contract: Amser llawn, parhaol. 37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol). Ynglyn â chi: Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 (NVQ/QCF neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol a phrofiad diwydiannol perthnasol ynghyd â Dyfarniad Asesydd.
Mae angen cymwysterau lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg ar ymgeiswyr a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel
2. Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.
Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil.
Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad.
Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.
Pam y dylech chi weithio i ni?
- Yn cynnwys â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael.
- Caiff y rhain eu gweinyddu thro’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.
- Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.
- Mae’r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn
- Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol.
- Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr.
- Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.
- Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn sylw yr mae lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.
- Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth, a gan ein bod yn cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol.
Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!
Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg.
Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn gweithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.
Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!
About this listing
This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.
Similar jobs you may like
Systems Engineer - Electronic Systems
6 days agoQuest Global Engineering Limited
Systems Engineer ( Electronics )
6 days agoAnson Mccade
Engineer - Systems Engineering
6 days agoAnson Mccade
Engineer - Systems Engineering
6 days agoQuest Global Engineering Limited
Systems Engineering
6 days agoQuest Global Engineering Limited
Systems Engineer ( Electronics )
6 days agoQuest Global Engineering Limited
Systems Engineering
6 days agoAnson Mccade
Customer Tech Support Specialist (Permanent)
6 days agoCarlsberg Britvic
Systems Engineering Engineer
6 days agoGKN Aerospace