Dadansoddwr Desg Gwasanaeth (2526494)

Screened
Cardiff, Wales
£28,031 - £28,778/annum
Posted 5 days ago
Apply Now

About the role

About the role

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn chwilio am Ddadansoddwr y Ddesg Gwasanaeth brwdfrydig sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Digidol am gyfnod penodol o wyth mis i lenwi bwlch yn ystod absenoldeb rhiant a rennir.

Mae hwn yn gyfle gwych i ennill profiad o fewn Desg Gwasanaeth TG brysur, gan gefnogi staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol.

Responsibilities

  • Ddarparu cymorth rheng flaen eithriadol, gan ddatrys problemau technegol yn effeithlon ac yn broffesiynol ar draws dyfeisiau, systemau a chymwysiadau.
  • Gyrru cysondeb ar draws y ddesg gwasanaeth, gan sicrhau logio cywir, rhannu gwybodaeth ac ymatebion o ansawdd uchel.
  • Defnyddio eich sgiliau technegol i rymuso defnyddwyr, gan gynnig canllawiau clir ar ffyrdd effeithiol a diogel o weithio.
  • Nodi a throsglwyddo problemau yn rhagweithiol, gan helpu i gynnal sefydlogrwydd y gwasanaeth a gwelliant parhaus.
  • Cydweithio ar draws timau a chyflenwyr, gan sicrhau cefnogaeth ddi-dor a helpu i wella'r cynnig Gwasanaethau Digidol ehangach.

What you will contribute

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, gyda gallu technegol cryf a sgiliau cyfathrebu rhagorol. Byddwch yn hyderus yn egluro materion technegol yn glir i ddefnyddwyr nad ydynt yn dechnegol, gan addasu eich dull i weddu i ystod eang o gynulleidfaoedd, a dangos empathi ac amynedd mewn amgylchedd cymorth prysur. Ochr yn ochr â phrofiad o ddatrys problemau TG, byddwch yn dod â meddylfryd cydweithredol, sgiliau trefnu cryf, ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth TG proffesiynol o ansawdd uchel.

Why join Cardiff Metropolitan University?

Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy’n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u bod yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhwydd, gan eich cefnogi gyda datblygiad eich gyrfa.

Benefits

  • Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiwn neu (pro rata os yn rhan-amser).
  • Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau misol hael.
  • Polisïau rhagorol sy’n ystyriol o deuluoedd - edrychwch ar ein tudalen Hyb Polisi.
  • Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad i gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
  • Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.

Salary & Details

Cyflog: £28,031 to £28,778 y flwyddyn pro rata

Cyfnod penodol tan 01/04/2027

Dyddiad Cau: 26 Jun 2026

#J-18808-Ljbffr

About this listing

Screened by Joboru

This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.