Darlithydd mewn Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (2526532)
About the role
Y cyfle
Os oes gennych hanes o gyraeddiadau sy'n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ar dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i gefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Bydd gofyn ichi wneud cyfraniad sylweddol at ddarpariaeth ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at gyflwyno’r BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, y BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Cymhwysol a’n MSc datblygol mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol a meysydd eraill ein cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws y casgliad o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltu proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Disgwylir ichi cyfrannu at proffil ymchwil yr adran a chwrdd â'r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer cyflwyno i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd â phrofiad mewn lleoliadau cymhwysol ar draws chwaraeon a/neu ffisioleg ymarfer corff clinigol, a byddem yn croesawu ymgeiswyr a all cyfrannu at ddiddordebau addysgu ac ymchwil cynyddol yr Ysgol ym maes poblogaethau benywaidd, yn enwedig ym meysydd iechyd menywod ac iechyd athletwyr benywaidd.
Beth rydym yn chwilio amdano
- Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
- Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
- Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgarwch ysgolheigaidd.
- Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
- Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
- Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
- Y gallu i nodi meysydd i'w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
- Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd - cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
- Profiad o addysgu AU neu gyfatebol.
- Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chymorth llinell gyntaf/mentora i gydweithwyr eraill.
- Gradd anrhydedd dda.
- Cymhwyster doethurol.
- Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac yn bendant cyn pen tair blynedd o ddechrau eich cyflogaeth).
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr. Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
Er mwyn llwyddo, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel yr amlygir gan eich cymwysterau a'ch profiad.
Dyddiad Cau: 26 Aug 2026
Ysgol/Uned: Academaidd
Cyflog: £46,049 to £51,753 y flwyddyn
Parhaol
About this listing
This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.
Similar jobs you may like
Cloud Finops Engineer
1 day agoGXO Logistics
Lead Network Engineer
1 day agoDGH Recruitment
Activities Coordinator
1 day agoStretton Hall Care Home
Service Delivery Manager
1 day agoCompass UK & Ireland
Civil Enforcement Officer
1 day agoPublica Group Ltd
Java Developer
1 day agoRandstad Digital
Senior BI Analyst
1 day agoHireful
Quality Assurance Analyst
1 day agoDGH Recruitment
AI Platform Engineer
1 day agoHays