Cydymaith Addysgu

Screened
Cardiff, Wales
£33,951 - £36,636/annum
Posted 5 days ago
Apply Now

About the role

Job Advert

Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am Cydymaith Addysgu brwdfrydig i ymuno â thîm sy’n anelu at ragoriaeth mewn addysgu er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o raddedigion Cymraeg. Byddwch yn cyfrannu at fodiwlau israddedig, gan ymgymryd â gwaith paratoi a chyflwyno modiwlau ar iaith a/neu lenyddiaeth (sydd eisoes wedi’u cynllunio), cyfrannu at waith asesu, darlithio a chynnal seminarau, tiwtorialau a gwaith grŵp. Mae’n gyfle gwych i ennill profiad dysgu ym myd Addysg Uwch, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ôl‑raddedig neu rai sydd newydd ennill gradd ddoethuriaeth, neu athrawon profiadol sy’n chwilio am gyfle newydd. Bydd gennych wybodaeth eang am y Gymraeg a’i diwylliant, a brwdfrydedd dros ddysgu eraill.

Mae’r swydd hon yn rhan‑amser, 4 diwrnod yr wythnos (28 awr), ac am gyfnod penodol o 6 mis rhwng Ionawr a Mehefin 2027. Os ydych am drafod y swydd mewn rhagor o fanylder, mae croeso ichi gysylltu â Dr Siwan Rosser neu Dr Dylan Foster Evans.

Cyflog: £33,951 – £36,636 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5)

Mae Ysgol y Gymraeg yn ysgol groesawgar a llewyrchus sydd ar y brig yn y Times Good University Guide ar gyfer Astudiaethau Celtaidd. Rydym yn falch o fod yn gartref cefnogol i staff academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol sydd yn darparu profiad rhagorol i’n cymuned arbennig o fyfyrwyr.

EEO Statement

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy’n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

#J-18808-Ljbffr

About this listing

Screened by Joboru

This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.