About the role
Math o swydd wag - Parhaol/Llawn Amser
Dyddiad Cau: 29 Gorffennaf 2026
Mae Amgueddfa Cymru yn awyddus i benodi Pennaeth Botaneg newydd i arwain tîm curadurol profiadol sy'n cynnal gwaith ymchwil a rhaglenni ymgysylltu â'r cyhoedd arloesol. Mae'r rôl arwain strategol hon yn gyfle i siapio sut mae amgueddfa genedlaethol Cymru yn mynd i'r afael â heriau bioamrywiaeth ac amgylcheddol byd-eang trwy ein casgliadau o'r radd flaenaf ac ymchwil arloesol.
Byddwch yn arwain tîm o guraduron ac ymchwilwyr, yn ennill nawdd gan gyrff fel UKRI a'r Gymdeithas Frenhinol ac yn sicrhau bod ein casgliadau Botaneg yn parhau i fod yn berthnasol ac yn hygyrch. Fel Arweinydd Project ar brojectau ymchwil effaith-uchel, byddwch yn hyrwyddo cydweithredu rhyngddisgyblaethol ar draws y gwyddorau, y celfyddydau a'r dyniaethau, gan cefnogi ein gweledigaeth Strategaeth 2030 yn uniongyrchol.
Mae'r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys datblygu'r casgliadau, rheoli cyllidebau ymchwil, cyhoeddi allbynnau academaidd a meithrin partneriaethau â sefydliadau addysg uwch. Byddwch yn dirprwyo ar ran y Pennaeth Adran yn ôl yr angen, yn mentora staff ac yn hyrwyddo arferion cynhwysol sy'n adlewyrchu ein cynulleidfaoedd amrywiol.
Rydym yn awyddus i benodi Botanegydd cymwys â gradd Doethuriaeth (neu gyfwerth) sydd â phrofiad o reoli casgliadau amgueddfeydd, arwain tîm ac ymgeisio'n llwyddiannus am grantiau.
Ymunwch â ni i sicrhau bod gwybodaeth wyddonol yn sail i ymgysylltu â chynulleidfaoedd am heriau amgylcheddol, a hyrwyddo safle Cymru fel arweinydd ym maes ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth.
About this listing
This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.
Similar jobs you may like
Technical Supervisor (MCS Approved) - Solar PV & Battery Storage
1 day agoFirstlight Solar Limited
Senior Architect
1 day agoPLG Consultants
Group Travel Executive
1 day agoTHE GOOD TRAVEL COLLECTIVE LIMITED
Head of Revenues, Benefits and Transactional Services
1 day agoSandwell Council
Specification Manager (Lighting / M&E)
1 day agoErnest Gordon Recruitment
ISO and Compliance Manager
1 day agoTrusted Technology Partnership
Risk Modelling Manager
1 day agoLeeds Building Society
Housing and Wellbeing Coordinator
1 day agoPlaces for People
Registered Manager
1 day agoActive Care Group