Darlithydd: Amaethyddiaeth
About the role
Ynglyn â chi
Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol gymhwyster addysgu (darperir hyfforddiant), ynghyd â chymhwyster lefel 6 (gradd neu gyfwerth) yn y maes pwnc, a phrofiad diwydiannol perthnasol. Dylech feddu hefyd ar gymwysterau lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfwerth). Gyda'r effaith y mae'r byd digidol yn ei chael ar ddysgu ac addysgu, rhaid i ymgeiswyr fod yn hyddysg mewn TG cyfwerth â lefel 2.
Amdanom ni
Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.
Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.
Pam gweithio i ni?
Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.
Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych chi 46 diwrnod o wyliau'r flwyddyn, ac oherwydd ein bod ni'n cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau. Gyda'r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 59 diwrnod o wyliau blynyddol fel Darlithydd. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!
Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae budd-daliadau salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.
Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.
Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.
Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!
Benefits
Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffnio, gwyliau hael.
Band C
Oriau dros gyfnod o flwyddyn: 417.5 - 536 (yn cynnwys boreau cynnar, gyda'r hwyr a phenwythnosau yn achlysurol).
Parhaol, hyblyg ffracsiynol
Grwp Colegau NPTC
Wedi'i lleoli yng Ngholeg y Drenewydd.
Graddfeydd Darlithydd Cyswllt 1 - 4
£26,387 - £31,140 y flwyddyn, pro rata.
Graddfeydd Prif Raddfa 1 - UP1
£33,596 - £48,289 y flwyddyn, pro rata (ar gyfer darlithwyr cymwysedig).
About this listing
This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.
Similar jobs you may like
Systems Engineering
4 days agoQuest Global Engineering Limited
Engineer - Systems Engineering
4 days agoQuest Global Engineering Limited
Engineer - Systems Engineering
4 days agoAnson Mccade
Systems Engineer - Electronic Systems
4 days agoQuest Global Engineering Limited
Systems Engineer ( Electronics )
4 days agoQuest Global Engineering Limited
Systems Engineering
4 days agoAnson Mccade
Systems Engineer ( Electronics )
4 days agoAnson Mccade
Customer Tech Support Specialist (Permanent)
4 days agoCarlsberg Britvic
Senior Systems Engineer - Engineering
4 days agoHackajob Ltd