Darlithydd: Gwasanaethau Cyhoeddus
About the role
Darlithydd: Gwasanaethau Cyhoeddus
Benefits: Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffnio, gwyliau hael
Mae gennym uchelgais mawr i fod yn ddarparwr addysg blaenllaw yn y sector ac fe hoffem i chi chwarae rhan yn hyn o beth. Os ydych chi'n angerddol dros Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, daliwch ati i ddarllen. Dim cymhwyster addysgu? Dim problem - gellir darparu hyfforddiant!
Band C. Oriau addysgu dros flwyddyn: 417.5 - 536 (yn cynnwys boreau cynnar, gyda'r hwyr a phenwythnosau yn achlysurol).
Parhaol, hyblyg ffracsiynol.
Graddfeydd Darlithydd Cyswllt 1 - 4, £26,387 - £31,140 y flwyddyn, pro rata. Graddfeydd Prif Raddfa 1 - UP1, £33,596 - £48,289 y flwyddyn, pro rata (ar gyfer darlithwyr cymwysedig).
Grwp Colegau NPTC - I'w leoli yn Academi Chwaraeon Llandarcy (i ddarparu cefnogaeth i Goleg Bannau Brycheiniog hefyd).
Ynglyn â chi: Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster addysgu ynghyd â chymhwyster lefel 6 (gradd neu gyfwerth) yn y maes pwnc a phrofiad perthnasol. Mae angen hefyd gymwysterau Lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfwerth). Gyda’r effaith y mae’r byd digidol yn ei chael ar ddysgu ac addysgu bydd angen i ymgeiswyr hefyd fod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2 o leiaf.
Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.
Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.
Pam y dylech chi weithio i ni?
Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.
Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 46 diwrnod o wyliau y flwyddyn, a gan ein bod ni'n cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 59 diwrnod o wyliau blynyddol fel Darlithydd. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!
Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant ymroddedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.
Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.
Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn gweithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn even yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.
Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!
About this listing
This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.
Similar jobs you may like
Information Technology Audit Manager
1 day agoPwC
Project Engineer / Manager
1 day agoEgis
Project Engineer
1 day agoweServed
Senior ML Engineer for Scientific Imaging & Vision
1 day agoOxford Instruments
Senior Salesforce Administrator (Belfast)
1 day agoTeamFeePay
Managing Engineer - Security Software
1 day agoMCS Group
Compliance & Information Security Manager
1 day agoCyber UK
Data Modeller
1 day agoSword Group
Lead Funds Data Architect
1 day agoCitibank (Switzerland) AG