Head of Cyber Resilience and Information Security - SRS

Screened
Usk, Wales
£69,151 - £73,937/annum
Posted 3 days ago
Apply Now

About the role

Rhowch eich meini prawf chwilio isod a dewiswch Chwilio. I chwilio am fwy nag un eitem mewn rhestr, dewiswch y meini prawf niferus y mae eu hangen gan ddefnyddio'r allweddau 'Ctrl' neu 'Shift' ar y bysellfwrdd.

SRS, Bloc J, Neuadd y Sir, Brynbuga

Sail Amser llawn

Pennaeth Seiberwydnwch a Diogelwch Gwybodaeth - SRS

Cyflog Gradd 13 | £69,151 - £73,937 Oriau cytundebol 37 Sail Amser llawn Pecyn Parhaol Categori/math o swydd IT, Y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir Dyddiad postio 15/06/2026 Cyfeirnod swydd REQ006396

Atodiadau: REQ006396 Head of Cyber Resilience and Infomation Security - SRS.docx. Pennaeth Seiberwydnwch a Diogelwch Gwybodaeth - SRS.docx

Disgrifiad Swydd

Ydych chi'n barod i arwain seiberwydnwch ar draws partneriaeth rhwng sawl cyngor? Ydych chi'n ffynnu mewn amgylcheddau deinamig lle mae arloesi yn cael effaith? Os felly, rydyn ni'n eich gwahodd i ymgeisio am rôl Prif Swyddog Diogelwch Gwybodaeth (CISO) gydag SRS.

Gwybodaeth am y Rôl Nid eich swydd Seiberddiogelwch neu Ddiogelwch Gwybodaeth gyffredin mo hon. Fel yr arweinydd strategol ar gyfer seiberwydnwch a diogelwch gwybodaeth ar draws Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, byddwch yn dylanwadu ar strategaeth seiber unedig sy'n diogelu gwasanaethau cyhoeddus ac yn eu grymuso, ac yn ei cyflawni. Byddwch yn adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Swyddog Gweithredol, a chi fydd yr ymgynghorydd dibynadwy ar gyfer popeth o ran seiber, diogelwch gwybodaeth, a pharhad busnes.

Byddwch yn arwain tîm o weithwyr proffesiynol talentog, yn dylanwadu ar uwch-randdeiliaid, ac yn sicrhau bod diogelwch yn fesur diogelu ond hefyd yn gyrru newid. O PSN a Cyber Essentials Plus i gydymffurfiaeth â PCI DSS a CAF, bydd eich gwaith yn cwmpasu arweinyddiaeth dechnegol, cynllunio strategol, arloesi yn y sector cyhoeddus ac ymddygiad y sefydliad mewn perthynas â diogelwch gwybodaeth.

Agrwm allweddol ar y rôl hon wrth asesu risg a deall sut y mae ymddygiad pobl yn effeithio ar ddiogelwch, yw'r gallu i ddadansoddi a dehongli patrymau ymddygiad i ragweld bygythiadau posibl i ddiogelwch. Trwy ddeall arlliwiau ymddygiad pobl, bydd y rôl hon yn helpu i adnabod gweithgarwch anarferol neu wyriadau oddi wrth batrymau arferol, a allai awgrymu risg i ddiogelwch. Mae'r dull rhagweithiol hwn yn caniatáu gweithredu mesurau ataliol cyn i unrhyw fygythiad gwirioneddol ddwyn ffrwyth, a thrwy hynny wella'r sefyllfa ddiogelwch gyffredinol o safbwynt pobl yn ogystal â thechnoleg.

Beth sy'n gwneud y rôl hon yn unigryw?

  • Deall ymddygiad sefydliadau a'r angen i sicrhau cydbwysedd rhwng risg a darpariaeth dechnoleg.
  • Ysbrydoli ymddiriedaeth a gyrru seiberwydnwch ar draws sefydliadau amrywiol.
  • Sicrhau cydbwysedd rhwng risg a pharhad busnes ac arloesi.
  • Arwain timau a rhwydweithiau rhithwir gydag empathi ac eglurder.
  • Cyfathrebu cysyniadau diogelwch cymhleth mewn iaith blaen.
  • Aros ar flaen bygythiadau sy'n esblygu a thirweddau rheoleiddiol.
  • Dangos profiad cymharol o arwain seiberddiogelwch ar lefel uwch.
  • Dangos hanes o gynllunio strategol, arwain tîm, a darparu manteision busnes mesuradwy.

Elfennau Ychwanegol Dymunol
Profiad o gydweithio ac arloesi yn y sector cyhoeddus.

Amodau Gwaith
Hyblygrwydd i weithio ar draws safleoedd a thu allan i oriau craidd pan fo angen.
Rhan o rota ymateb i ddigwyddiadau y tu allan i oriau arferol.
Amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriadau clirio diogelwch.
Lleoliad: Brynbuga, SRS (a theithio ar draws Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent)

Ymunwch â ni i ddylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus diogel.
Ymgeisiwch nawr i fod yn gonglfaen seiberwydnwch a diogelwch gwybodaeth ar draws De-ddwyrain Cymru. Os hoffech gael trafodaeth am y rôl, mae croeso i chi gysylltu â Paul Jefford (Prif Swyddog Gweithredol) - PaulJefford@SRSWales.com

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.

#J-18808-Ljbffr

About this listing

Screened by Joboru

This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.