Darlithydd mewn Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon (2526445)
About the role
Cyfle
Os oes gennych hanes o gyraeddiadau sy'n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i gefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Bydd gofyn ichi wneud cyfraniad sylweddol at ddarpariaeth ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at gyflwyno’r BSc a’r MSc Darlithydd mewn Dadansoddi Perfformiad a meysydd eraill ein cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad. Yn frwdfrydig am addysgeg sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws y casgliad o raglenni israddedig ac ôl-raddedig. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltu proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Disgwylir ichi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran a chwrdd â'r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer cyflwyno i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.
Beth rydym yn chwilio amdano (Qualifications)
- Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
- Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
- Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgarwch ysgolheigaidd.
- Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
- Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
- Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
- Y gallu i nodi meysydd i'w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
- Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd - cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
- Profiad o addysgu AU neu gyfatebol.
- Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chymorth llinell gyntaf/mentora i gydweithwyr eraill.
- Gradd anrhydedd dda.
- Cymhwyster ôl-raddedig a/neu brofiad dadansoddi perfformiad cyfredol a sylweddol mewn amgylchedd perfformio.
- Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac yn bendant cyn pen tair blynedd o ddechrau eich cyflogaeth).
Benefits
Cyflog: £46,049 to £51,753 y flwyddyn
Ysgol/Uned: Academaidd
About this listing
This role passed our automated spam and quality filters and was active in our feed when last checked. Joboru is an aggregator — here is how we screen listings. If anything looks off, tell us.
Similar jobs you may like
Senior Growth Marketing Manager
1 day agoTrade Mastermind
Assistant Sales & Marketing Manager
1 day agoCrystal Clear Recruitment Ltd
Marketing Manager
1 day agoGet Recruited Ltd
Events Marketing Manager
1 day agoTrade Mastermind
Sales and Marketing Manager
1 day agoAthena Resourcing Solutions
PPC Manager
1 day agoBlue Pelican Consulting Limited
Category Executive FTC
2 days agoMuller Dairy
Senior Affiliate Executive
2 days agoAnglian Home Improvements
NPD Manager
2 days agoCompleat Food Group